Porthcawl - Sker Beach and Pink Bay
Mae Pink Bay yn dipyn o em cudd ym Mhorthcawl; mae'n boblogaidd iawn gyda cherddwyr lleol, pobl sy'n frwd am fywyd gwyllt a syrffwyr. Mae ganddo lan cerrig fach serth yn arwain i lawr at y tywod euraidd. Mae gan y creigiau ar ben y traeth effaith britho pinc unigryw mewn goleuni penodol, ac felly'r enw Pink Bay. Mae modd cyrraedd y traeth hwn trwy gerdded 15 munud o Rest Bay ar hyd llwybr bordiau gerllaw Clwb Golff Royal Porthcawl. Mae'n draeth gwledig ac felly nid oes ganddo doiledau na mwynderau eraill. Mae cofeb i griw bad achub y Mwmbwls a'r SS Samtampa – drylliad agerlong 7,000 tunnell - i'w gweld ar lanw isel ar bwynt y Sger gerllaw.
Traeth Sker yw'r mwyaf gorllewinol o draethau Porthcawl a dim ond drwy gerdded o Rest Bay neu Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig y mae ar gael. Yn gyffredinol yn dywodlyd ac yn wastad, fe'i defnyddir yn bennaf gan bobl leol, gan ei wneud yn un o'r traethau tawelach ym Mhorthcawl. Fel traeth Pink Bay, mae'n cael ei ystyried yn wledig ac felly nid oes ganddo doiledau nac amwynderau eraill. Caniateir cŵn ar y ddau draeth drwy gydol y flwyddyn.